Rhwydwaith gofal iechyd gynaliadwy i Gymru
Mae'r argyfwng hinsawdd yn argyfwng iechyd
Rhwydwaith yw Iechyd Gwyrdd Cymru o weithwyr iechyd mewn swyddi clinigol, gweinyddol, cymorth a rheolaethol ar hyd a lled Cymru sy’n cydnabod bod yr argyfwng hinswadd yn argyfwng iechyd.
Anelwn i Gysylltu, Dysgu & Trawsnewid; i greu cysylltiadau ar draws Gymru gan fynd y tu hwnt i ffiniau daearyddol wrth gefnogi cydweithredu trawsadrannol. Ein nod yw dysgu mwy a grymuso pawb yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gyda'r offer a'r wybodaeth i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd - gan drawsnewid gofal iechyd i fod yn climate smart.
Ein gweledigaeth yw gofal iechyd cynaliadwy sy'n amddiffyn iechyd pobl a'r blaned; mae cysylltiad annatod rhwng y ddau. Rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ofal iechyd chwarae rhan weithredol wrth gyfyngu ar godiad tymheredd y byd. Darganfyddwch fwy amdanom ni.
Gwahoddwn i chi gysylltu yn ôl eich lleoliad neu eich arbenigedd, i ddygsu wrth bori trwy ein casgliad o adnoddau, a chael eich ysbrydoli gan eraill sy’n gweithio ym maes gofal iechyd ledled Cymru i gyflawni eich prosiect trawsnewidiol eich hun.

Iechyd Gwyrdd Cymru: Y Lansiad
Ydych chi yn weithiwr iechyd profesiynnol yng Ngymru sy’n pryderi am argyfwng iechyd y blaned? Ydych chi eisiau darganfod mwy am yr hyn a allwch chi ei wneud, a sut i dderbyn mwy o gefnogaeth?
Ymunwch â ni ar gyfer ein cynhadledd rhithiol ar 29ain o Fehefin 2021 lle byddwn yn lawnsio Iechyd Gwyrdd Cymru; diwrnod o godi ymwybyddiaeth, adeiladu ffydd a trosglwyddo sgiliau.
Mae’r diwrnod yn dechrau gyda arbenigwyr bydd yn amlinellu’r cysylltiad rhwng hinsawdd a’r argyfwng iechyd, a’r ymateb o’r sector iechyd sydd yn angenrheidiol i ymafael â'r bygythiad mwyaf i iechyd byd-eang yr 21ain ganrif.
Byddwn wedyn yn rhannu a dysgu gan mentrau Cymraeg lleol a phrosiectau gofal iechyd cynaliadwy byd-eang ar draws ystod eang o feysydd arbenigol.
Mae’r prynhawn yn cynnig gweithdai i ddewis ohonnynt, gyda’r bwriad o’ch darparu gyda’r wybodaeth a'r sgiliau i ddechrau eich prosiect cynaliadwy eich hun, ac i ledaenu eich syniad i ymateb i'r uchelgeisiau a amlinellir gan Gynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru.
© 2021 Green Health Wales | Iechyd Gwyrdd Cymru.